Log in to check eligibility

Nominations: Nominations closed

Voting: Voting scheduled

Vacancies
1

Candidates

Elis Davies

(english version below)

Annwyl gyfeillion,

Rydw i yma heddiw i roi datgan ar pam mai fi fydd is-lywydd gorau ar gyfer sicrhau dyfodol llathraidd Cymdeithas Cymraeg Coleg Prifysgol Llundain. Fel Cymro o Gaernarfon, gwelaf y gymdeithas fel cyfle da i siarad Cymraeg, gwneud ffrindiau, a chymdeithasu wrth afael peint oer mewn tafarn cynnes; cyfleoedd na welwch chi mewn unrhyw gymdeithas arall. 

Yn gyntaf, fel is-lywydd byddwn yn sicrhau lles, a nosweithiau cymdeithasu lle gallwch sgwrsio, (yfed), cael hwyl, a "Meistroli iaith lleiafrifol" (dim "fel hobi"). Hefyd, fel is-lywydd byddwn yn llygadu tripiau i Gaeredin (ar gyfer Chwe Gwlad), Caerdydd a'r ddawns Ryngol (ella). Un o fy mlaenoriaethau i ar gyfer y gymdeithas yw bod yna chroeso cynnes a chartref i bawb. Byddwn yn gwneud hyn drwy sicrhau digwyddiadau i bob myfyriwr disglair y gymdeithas; o bobol sy'n mwynhau hanes ac awyr agored, i "feirdd a chantorion".

I gloi, credaf mai fy Nghymreictod a fy angerdd tuag at Gymru yn un a bydd yn gwneud i'r gymdeithas ffynnu. Felly, credaf fod fy sedd fel is-lywydd yn anochel. Heb bleidleisio ar gyfer fi byddwch yn troi "ein cenedl i genhedlu estroniaid heb ystyr i'w hanes",  felly byddwch yn rhesymol, a phleidleisiwch ar gyfer unigolyn a fyddai'n rhoi nerth bôn braich ar gyfer ein Cymdeithas. 

Diolch

----------------------

I ran out of characters on the Welsh version but I'll be a sound vice-president because I've watched Gavin and Stacey about 5 times, and my favourite band is Stereophonics. Ta